Community Action During the Covid Crisis
Community Action During the Covid Crisis - Sioned's Story!
I’ve represented my village, Alltwen in the Swansea Valley, as a Community Councillor for over three years now and am currently Chair of Cilybebyll Community Council. Unlike other elected positions, being a community councillor is a voluntary role and I’ve found it to be be such a rewarding one: It is the closest tier of democracy to people and is a great way of getting to know and understand the needs and character of your local neighbourhood. My work at Academi Hywel Teifi, Swansea University is centered on community outreach and engagement and as a part of my role I manage Tŷ’r Gwrhyd, a community Welsh Centre in Pontardawe. My work for the university has therefore reflected the importance of community engagement and I feel my voluntary community work has informed and enhanced my ability to perform my professional role.
As the Coronavirus crisis started to hit Wales and we edged towards the inevitable lockdown, I sensed that many of my neighbours were becoming anxious about how they would cope with everyday essential tasks such as shopping and collection of medication. I had heard how friends in Cardiff had started a volunteer network in their area and decided, that as no plan had been established by the local authority at that point, that I would do the same in my ward in my capacity as community councillor.
I created a Facebook group called ‘Alltwen Covid-19 Community Volunteers’ and spread the word through local Facebook groups and pages, asking people to volunteer. The response was amazing. Within a few days I had over 20 volunteers on the books. We printed and distributed flyers with the group’s information on them to every house in village - over 1000 homes - as many of Alltwen’s elderly residents are not on social media.
By the end of the first week of lockdown, I had received many more offers of help and the volunteer group has now reached 34. We have established a system of using Whatsapp and an email group to assign requests for help which have come in to me thick and fast since the official lockdown began at the end of March. Many residents are unable to leave their homes because their age or health conditions make them vulnerable to infection and many live alone or have no family nearby. As well as helping people with shopping and collecting prescriptions, volunteers have also been asked to walk dogs and post letters. We have been helping local mental health groups who are concerned about the well-being of some of their members, by keeping in regular touch by phone with those who are feeling anxious and isolated. Our group is now also working alongside the Local Authority food parcel service for those who are shielding, responding to requests for help that are not eligible under their scheme.
Although I’ve been active in my community for a long time, organising practical help and co-ordinating a group of fantastic volunteers (some of whom I know personally but some of whom I haven’t even been able to meet in person yet!) has been such an enriching experience. The messages of heartfelt gratitude that we have received are truly touching. As well as honing my own organisational and communication skills, the volunteer group has brought out the best in our community, and has shone a
light on the importance of community action in a society which has suffered greatly in the wake of the recent period of austerity and cuts to services. I plan to continue running the Alltwen volunteer group even after the current crisis has passed to hopefully help with other community projects such as improving the environment.
Sioned Williams
Co-ordinator, Alltwen Covid-19 Community Volunteers
Gweithredu Cymunedol Yn ystod yr Argyfwng Covid
Stori Sioned
Rwyf wedi cynrychioli fy mhentref, Alltwen yng Nghwm Tawe, fel Cynghorydd Cymuned ers dros dair blynedd bellach ac ar hyn o bryd rwy'n Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll. Yn wahanol i swyddi etholedig eraill, mae bod yn gynghorydd cymunedol yn rôl wirfoddol ac mae'n un mor werth chweil: Dyma'r haen agosaf o ddemocratiaeth at y bobl ac mae'n ffordd wych o ddod i adnabod a deall anghenion a chymeriad eich cymdogaeth leol. Mae fy ngwaith yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar estyn allan ac ymgysylltu â'r gymuned ac fel rhan o fy rôl rwy'n rheoli Canolfan Gymraeg gymunedol Tŷ'r Gwrhyd ym Mhontardawe. Felly mae fy ngwaith i'r brifysgol wedi adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned ac rwy'n teimlo bod fy ngwaith cymunedol gwirfoddol wedi gwella fy ngallu i gyflawni fy rôl broffesiynol.
Wrth i argyfwng Coronafeirws ddechrau taro Cymru a'r cyfnod dan glo anochel yn nesau, synhwyrais fod llawer o'm cymdogion yn dechrau pryderu ynghylch sut y byddent yn ymdopi â thasgau hanfodol bob dydd fel siopa a chasglu meddyginiaeth. Roeddwn wedi clywed sut roedd ffrindiau yng Nghaerdydd wedi cychwyn rhwydwaith gwirfoddolwyr yn eu hardal a phenderfynais, gan nad oedd yr awdurdod lleol wedi sefydlu unrhyw gynllun bryd hynny, y byddwn yn gwneud yr un peth yn fy ward yn rhinwedd fy rôl fel cynghorydd cymuned.
Creais grŵp Facebook o’r enw ‘Grŵp Gwirfoddolwyr Covid-19 Cymuned yr Alltwen' a lledaenu’r gair trwy grwpiau a thudalennau Facebook lleol, gan ofyn i bobl wirfoddoli. Roedd yr ymateb yn anhygoel. O fewn ychydig ddyddiau roedd gen i dros 20 o wirfoddolwyr ar y llyfrau. Fe wnaethon ni argraffu a dosbarthu taflenni gyda gwybodaeth y grŵp arnyn nhw i bob tŷ yn y pentref - dros 1000 o gartrefi - gan nad yw llawer o drigolion oedrannus Alltwen arlein na'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Erbyn diwedd wythnos gyntaf y cyfnod dan glo, roeddwn wedi derbyn llawer mwy o gynigion o gymorth ac mae'r grŵp gwirfoddolwyr bellach wedi cyrraedd 34. Rydym wedi sefydlu system o ddefnyddio Whatsapp a grŵp e-bost i ddosbarthu'r ceisiadau niferus am help sydd wedi llifo i mewn ataf ers diwedd mis Mawrth. Mae llawer o drigolion yn methu â gadael eu cartrefi oherwydd bod eu hoedran neu eu cyflyrau iechyd yn eu gwneud yn agored i'r haint ac mae llawer yn byw ar eu pennau eu hunain neu heb deulu gerllaw. Yn ogystal â helpu pobl gyda siopa a chasglu presgripsiynau, mae'r gwirfoddolwyr yn mynd â chŵn pobl am dro ac hefyd yn postio llythyrau. Rydym wedi bod yn helpu grwpiau iechyd
meddwl lleol sy'n poeni am les rhai o'u haelodau, trwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd dros y ffôn gyda'r rhai sy'n teimlo'n bryderus ac yn ynysig. Mae ein grŵp bellach hefyd yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth parseli bwyd yr Awdurdod Lleol ar gyfer y rhai mwyaf bregus, gan eu helpu i ymateb i geisiadau am gymorth nad ydynt yn gymwys o dan eu cynllun.
Er fy mod i wedi bod yn weithgar yn fy nghymuned ers amser maith, mae trefnu cymorth ymarferol a chydlynu grŵp o wirfoddolwyr gwych (rhai rydw i'n eu hadnabod yn bersonol ond rhai nad ydw i hyd yn oed wedi gallu cwrdd â nhw'n bersonol eto! ) wedi bod yn brofiad mor arbennig. Mae'r negeseuon o ddiolch twymgalon a gawsom gan y rhai ryn ni'n eu helpu wedi fy nghyfwrdd i'r byw. Yn ogystal â gwella fy sgiliau trefnu a chyfathrebu fy hun, mae'r grŵp gwirfoddolwyr wedi dod â'r gorau mas yn ein cymuned, ac wedi taflu goleuni ar bwysigrwydd gweithredu cymunedol mewn cymdeithas sydd wedi dioddef yn fawr yn y cyfnod o lymder diweddar a thoriadau i wasanaethau. Rwy'n bwriadu parhau i redeg grŵp gwirfoddolwyr Alltwen hyd yn oed ar ôl i'r argyfwng presennol fynd heibio, gobeithio, i helpu gyda phrosiectau cymunedol eraill fel gwella'r amgylchedd.
Sioned Williams
Cyd-lynydd, Gwirfoddolwyr Cymunedol Covid-19 yr Alltwen

