Baromedr Cymru

Arolwg chwarterol newydd ar gyfer sector gwirfoddol Cymru yw Baromedr Cymru, sy’n cael ei gyflwyno gan CGGC ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau VCSE ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Dyma’r arolwg dwyieithog cyntaf o’i fath, wedi’i gynllunio i gryfhau llais mudiadau gwirfoddol ledled Cymru a darparu tystiolaeth ddibynadwy a rheolaidd am iechyd, heriau a chyfleoedd y sector.
Cliciwch yma i gymryd rhan: https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_74KhrxWJXAoe46O
Yn union fel mae baromedrau busnes yn olrhain tueddiadau ar draws yr economi, bydd Baromedr Cymru yn darparu sylfaen dystiolaeth gyson ar gyfer y sector gwirfoddol — gan ddangos sut mae’n newid, ble mae pwysau’n cynyddu, a pha gefnogaeth sydd fwyaf ei hangen. Bydd canfyddiadau’n cael eu rhannu’n gyflym gyda mudiadau sy’n cymryd rhan, cyllidwyr a llunwyr polisi er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar ddealltwriaeth wirioneddol o’r sector.
Baromedr Cymru is a new quarterly survey for the voluntary sector in Wales, delivered by WCVA and the VCSE Data and Insights Observatory at Nottingham Trent University. It’s the first bilingual survey of its kind, designed to amplify the voice of voluntary organisations across Wales and provide trusted, regular evidence about the sector’s health, challenges, and opportunities.
Click here to take part: https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_74KhrxWJXAoe46O
Just as business barometers track trends across the economy, Baromedr Cymru will provide a consistent evidence base for the voluntary sector — showing how it is changing, where pressures are growing, and what support is most needed. Findings will be shared quickly with participating organisations, funders, and policymakers to ensure decisions are grounded in real sector insight.

