LIVE WELL WITH HEARING LOSS Telephone or Postal Volunteer Befriender Role Profile

Purpose of role
The Live Well with Hearing Loss service supports people who are deaf, have hearing loss or tinnitus to access services, connect with their community and improve their knowledge around using devices. It is a newly funded initiative funded by the Welsh Government and delivered by RNID in partnership with Centre of Sign-Sight-Sound. Volunteer befrienders provide support and companionship to our service-users giving them a regular chance to chat or share some time to enhance their day.
Key responsibilities
- Actively participate in all training and preparation to become a befriender
- Phone service-users at a regular time each week for a period of 10 weeks, or write to a service-user on a regular basis, as agreed with the service-user and the Volunteer Coordinator
- Provide essential companionship to service-users who may be lonely or socially isolated or unable to leave their home - this will make them feel valued and known
- Work within all organisational policies, procedures and guidelines
- Attend regular support meetings with the Volunteer Coordinator
- Maintain appropriate boundaries and confidentiality with the service-user
- Support safeguarding procedures and alert the Volunteer Coordinator to any problems or issues
- Complete a record-sheet of all volunteering activity
Time commitment
Flexible. After initial training, we expect that you would be able to commit to a minimum of one hour a week for telephone befriending. This has to be between the hours of 9am-4pm on a weekday at a time agreed by you, the service-user and the Volunteer Coordinator. Postal befriending is variable and flexible. There will be regular one-to-one support sessions for all volunteers with the Volunteer Coordinator which will take place within office hours. There may be occasional mandatory refresher training. You may also be invited to attend volunteer social events or events to highlight the project at which attendance is optional.
Location
This befriending role takes place from your own home.
Skills needed
Our ideal person will be:
- Able to communicate clearly and listen well
- Friendly and approachable
- Sensitive towards other people
- Reliable, trustworthy and honest
- Open-minded and non-judgemental
- Have knowledge of, or be willing to learn about, issues affecting deaf people or people with tinnitus or hearing loss
- Aged at least 18 years
Benefits
As a volunteer you will:
- make a real difference to the people you support
- help us run this important service
- receive training and learn/improve valuable skills
- meet people in different situations
- gain experience volunteering in third sector and experience to improve your CV
Expenses
Volunteer out-of-pocket expenses are paid in line with organisational policy. However, all supplies for postal befriending will be provided so no further cost should be incurred. For telephone befriending, if you do not have inclusive minutes which you are able to use, we are able to lend a basic mobile phone for the sole purpose of your volunteering.
The process to becoming a befriender
You must first complete the organisation’s application form. You can then be invited to an interview with the Volunteer Coordinator. If successful, you will be asked to provide two references and may be asked to complete a DBS check (depending on your role). Once these have been satisfied you will be invited to attend mandatory induction and training for your role. You are then “matched“ with a service-user to start your befriending.
Contact details
For more information, please contact the Volunteer Coordinator, Lucie Paddison, on lucie.paddison@rnid.org.uk or 07423 646853.
BYW’N DDA Â CHOLLED CLYW
Proffil o Rôl Cyfeillachwr Gwirfoddol ar y Ffôn neu drwy’r Post
Diben y Rôl
Mae’r gwasanaeth Byw’n Dda â Cholled Clyw yn cynorthwyo pobl sy’n fyddar, sydd â cholled clyw neu dinitws i ddefnyddio gwasanaethau, i gysylltu â’u cymuned ac i wella’u gwybodaeth am ddefnyddio dyfeisiadau. Mae’n fenter sydd newydd ei hariannu a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflenwir gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw mewn partneriaeth â’r Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain. Mae cyfeillachwyr gwirfoddol yn darparu cymorth a chwmnïaeth i ddefnyddwyr ein gwasanaeth gan roi cyfle rheolaidd iddynt sgwrsio neu rannu amser i wella’u diwrnod.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cymryd rhan yn weithgar mewn pob gorchwyl hyfforddi a pharatoad i ddod yn gyfeillachwr
- Ffonio defnyddwyr y gwasanaeth ar adeg reolaidd bob wythnos am gyfnod o 10 wythnos, neu ysgrifennu at ddefnyddiwr y gwasanaeth yn rheolaidd, fel y cytunwyd â defnyddiwr y gwasanaeth a’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr
- Darparu cwmnïaeth hanfodol i ddefnyddwyr y gwasanaeth a all fod yn unig neu wedi’u hynysu’n gymdeithasol neu’n methu â gadael eu cartref - bydd hyn yn gwneud iddynt deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod pobl yn eu hadnabod
- Gweithio yn unol â holl bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau’r sefydliad
- Mynychu cyfarfodydd cymorth rheolaidd â’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr
- Cynnal terfynau priodol a chyfrinachedd â defnyddiwr y gwasanaeth
- Cynnal gweithdrefnau diogelu a rhoi gwybod i’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr am unrhyw broblemau neu drafferthion
- Cwblhau taflen gofnodi o’r holl weithgareddau gwirfoddoli.
Ymrwymiad Amser
Hyblyg. Ar ôl hyfforddiant cychwynnol, disgwyliwn y byddwch yn gallu ymrwymo i o leiaf un awr yr wythnos ar gyfer cyfeillio ar y ffôn. Mae’n rhaid i hyn fod rhwng oriau 9.00yb a 4.00yp ar ddiwrnod o’r wythnos waith ar adeg y cytunwyd arni gennych chi, defnyddiwr y gwasanaeth a’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr. Mae cyfeillio drwy’r post yn newidiol ac yn hyblyg. Bydd yna sesiynau cymorth un i un rheolaidd i bob gwirfoddolwr gyda’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr fydd yn digwydd yn ystod oriau swyddfa. Efallai y bydd yna hyfforddiant diweddaru gorfodol ar adegau. Efallai y cewch hefyd eich gwahodd i fynychu digwyddiadau cymdeithasol i wirfoddolwyr neu ddigwyddiadau i amlygu’r prosiect lle mae presenoldeb yn ddewisol.
Lleoliad
Mae’r rôl gyfeillio hon yn digwydd o’ch cartref eich hun.
Sgiliau angenrheidiol
Bydd ein person delfrydol yn:
- Gallu cyfathrebu’n eglur ac yn gwrando’n astud
- Cyfeillgar ac yn agos-atoch
- Sensitif tuag at bobl eraill
- Dibynadwy, teilwng o ymddiriedaeth a didwyll
- Bod â meddwl agored a pheidio â barnu
- Meddu ar wybodaeth neu fod yn barod i ddysgu am faterion sy’n effeithio ar bobl fyddar neu bobl â thinitws neu golled clyw
- O leiaf yn 18 mlwydd oed.
Buddion
Fel gwirfoddolwr, fe fyddwch yn:
- Gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl rydych yn eu cynorthwyo
- Ein helpu ni i gynnal y gwasanaeth pwysig hwn
- Derbyn hyfforddiant a dysgu/gwella sgiliau gwerthfawr
- Cyfarfod pobl mewn gwahanol sefyllfaoedd
- Ennill profiad yn gwirfoddoli yn y trydydd sector a phrofiad i wella’ch CV.
Treuliau
Telir mân dreuliau gwirfoddoli yn unol â pholisi’r sefydliad. Fodd bynnag, bydd yr holl gyflenwadau ar gyfer cyfeillio drwy’r post yn cael eu darparu, ac felly ni ddylid cael rhagor o gostau. Ar gyfer cyfeillio ar y ffôn, os nad oes gennych funudau cynhwysol rydych yn gallu’u defnyddio, rydym yn gallu rhoi benthyg ffôn symudol sylfaenol er yr unig ddiben o gyflawni’ch rôl o wirfoddoli.
Y broses o ddod yn gyfeillachwr
Mae’n rhaid ichi’n gyntaf gwblhau ffurflen gais y sefydliad. Gellir wedyn eich gwahodd i gyfweliad â’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr. Os ydych yn llwyddiannus, gofynnir ichi ddarparu geirda gan ddau berson ac efallai y gofynnir ichi gwblhau gwiriad gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (yn dibynnu ar eich rôl). Unwaith y bydd y rhain wedi’u bodloni, fe’ch gwahoddir i fynychu sesiwn gynefino a hyfforddiant gorfodol ar gyfer eich rôl. Cewch wedyn eich “paru“ â defnyddiwr y gwasanaeth i ddechrau ar eich cyfeillio.
Manylion Cysylltu
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr, Lucie Paddison, ar lucie.paddison@rnid.org.uk neu 07423 646853, os gwelwch yn dda.

